Potsh

Potsh

Be chi’n cael os chi’n rhoi cyfle i blant fynd amdani am y tro cyntaf yn y gegin a chael hwyl wrth goginio? Potsh wrth gwrs! Leah Gaffey a Dyfed Cynan, ein cyflwynwyr, fydd yn helpu’r tîm pinc a’r tîm glas yn y gegin wrth iddyn nhw drio ennill y Pinafal Aur! O fewn tair rownd mae’r cystadleuwyr yn creu pryd mewn 10 munud, dyfalu be s’y yn parsel Potsh ac i orffen yn coginio prif gwrs gan ddilyn rysáit, ond falle gawn ni ddim gweld y rysáit i gyd! Mae’r beirniaid, ffrindiau’r cogyddion, yn dewis y pryd orau a’r tîm yna sy’n ennill tlws y Pinafal Aur, a mae’r collwyr yn wynebu llond bwced o Potsh!

Boom Plant
Boom Cymru working with s4c