Mae’r Nadolig yn amser cyffrous i bawb ond bydd yr Ŵyl eleni yn un arbennig iawn i Clive a Rhi. Dyma eu Nadolig cyntaf gyda’u mab newydd Frank sy’n un ar ddeg mlwydd oed. Yn anffodus dyw hwyl yr Ŵyl ddim yn dod â gwen i wyneb Frank. A dweud y gwir yr unig beth sydd yn ei wneud yn hapus yw llyfrau comic. Ond mae byd Frank yn newid yn llwyr pan ddaw i adnabod ei gyfnither Mia a thwrci mawr gwyn o’r enw Aden! Bydd y ffilm deuluol,hyfryd yma yn siŵr o ddod â gwên i’r wyneb a deigryn i’r llygad.
Pluen Eira
Drama