Drama gyfoes gan Fflur Dafydd yn dilyn hynt a helynt ficer ifanc o’r enw Myfanwy Elfed, sy’n darganfod fod angen llawdriniaeth ar ei hymennydd, ac o ganlyniad, mae’n dechrau cwestiynu ei ffydd, ei phriodas – a’i pherthynas gyda’r ymgymerwr lleol. Wrth iddi ddod i ddygymod â’r cyflwr, mae hi’n ein tywys ar daith ddoniol, emosiynol, abswrd, a thywyll, sy’n gwneud i ni ystyried bywyd a marwolaeth o’r newydd…
Parch
Drama