Fel un o gorau mwyaf llwyddiannus y DU, mae Only Men Aloud wedi gwneud y cyfan. Ond ers blwyddyn bellach, maent wedi mynd trwy drawsnewidiad, o gôr meibion i wythawd lleisiol tyn a hoenus. Gyda’r sialens o ddarganfod eu sain ffres, newydd o’u blaen a thipyn o waith i’w wneud ar gyfer recordiad teledu sydd ar ddod, mae’r Cyfarwyddwr Cerdd, Tim Rhys-Evans, yn mynd ag Only Men Aloud i ffwrdd o ymyrraeth bywyd modern ar bererindod i Ynys Enlli. A fyddant yn gallu ymdopi gydag wythnos heb drydan, ffonau, a chawodydd a dygymod â bwced fel tŷ bach?! Wrth iddynt fynd i’r afael â bywyd ar yr ynys maent yn darganfod bod mwy i Only Men Aloud na cherddoriaeth yn unig.
Only Men Aloud – Y Bois ar Enlli
Cerddoriaeth