Ym mis Ionawr 2017, fe aeth Only Men Aloud a’i steil unigryw o gerddoriaeth i India. Tra ym Mumbai, fe’i heriwyd i ddysgu cân newydd sbon mewn Hindi a gyfansoddwyd gan Rahul Pandey, sydd yn ysgrifennu ac yn perfformio i’r diwydiant ffilm Bollywood. Treuliodd OMA wythnos gyda phlant lleol o brosiect ‘Songbound’ yn dysgu’r geiriau a’r coreograffi – elusen sydd yn rhoi budd drwy gân i blant llai ffodus yw Songbound. Wrth ymweld â Film City, daeth cyfle i ganu i feirniaid ‘Indian Idol,’ a hyn i gyd wedi arwain at berfformiad bythgofiadwy yn y gymuned leol, gan uno diwylliannau India a Chymru drwy gyfrwng cerddoriaeth.