Rhaglen gyfoes o garolau Nadolig traddodiadol Cymraeg i gyfeiliant offerynnau gwerin wedi ei lleoli yn Sain Ffagan, Amgueddfa Werin Cymru. Bryn Terfel sy’n canu repertoire o ganeuon gwerinol – newid i’w genre clasurol arferol – a hynny mewn adeiladau amrywiol o gwmpas Amgueddfa Werin Cymru. Yn cyfeilio i Bryn mae band o offerynwyr gwerin dan ofal y cyfarwyddwr cerdd, Patrick Rimes. Mae’r gwesteion Bryn yn cynnwys Calan, Gwyneth Glyn, Brychan Llyr, Brigyn a Gwenan Gibbard, a cherddi Nadoligaidd Myrddin ap Dafydd yn pontio’r caneuon ac yn rhoi blas i ni o draddodiadau’r Ŵyl. Rhaglen sy’n cyfuno hen alawon a threfniannau newydd yw hon i ddathlu Gŵyl y Geni.