Cyfres ddrama canol wythnos newydd lle cawn gyfle i ddod i adnabod casgliad o gymeriadau llawn cyfrinachau – rhai sy’n byw yn ardal Llanberis ag eraill sy’n byw ym mro Gŵyr, gydag un person yn eu clymu i gyd at ei gilydd – Delia Evans. Un o ffrindiau Delia o’r gorffennol yw Mal Harries. Ers rhai blynyddoedd, mae’n byw yn y Gogledd ac yn aelod o dîm achub mynydd ardal Llanberis. Mae eitem newyddion amdano wrth ei waith yn tawelu’r tensiwn yn nhŷ ei gariad, Gwen, a’i phlant Gwion ac Elen, ond yn sbarduno Delia i yrru i’r Gogledd gyda’i merch Caitlin. Pam? Yr ysbyty yw pen y daith i Delia, ac yn fanna mae’n datgelu ei chyfrinachau i Mal – dwy gyfrinach fydd yn newid ei fywyd ef a phawb sydd yn agos ato am byth.