Dyma hanes Hannah Clark, merch gyffredin o Aberpennar, De Cymru â stori anghyffredin am oroesi. Yn dioddef o salwch calon ddifrifol yn ddwy oed, dim ond gwaith y llawfeddyg blaenllaw Syr Magdi Yacoub allai achub ei bywyd. Byddai ei lawdriniaeth arloesol yn creu hanes yn y byd meddygol. Dyma stori wyrthiol am y ferch gyda dwy galon, ei rhieni a’r meddyg a achubodd ei bywyd.