Croeso cynnes i gymeriadau newydd sbon Cyw i’r babanod lleiaf, y Cywion Bach! Mae Bîp Bîp, Pi Po, Bop a Bw yn ffrindiau pennaf ac maen nhw wrth eu bodd yn dysgu geiriau newydd. Os ydych chi a’ch cywion bach yn dysgu Cymraeg hefyd, dewch i ddysgu gair ym mhob rhaglen, gyda cherddoriaeth ac eitemau gyda phlant bach sy’n dysgu’r geiriau, yn cynnwys sut i’w harwyddo.
Cywion Bach
Plant