Yn y gyfres hanes byw hon, mae tri theulu yn cael eu cludo yn ôl i faes glo yn Ne Cymru yn y 1920au. Am gyfnod o bedair wythnos, mae’n rhaid iddynt ymdopi â bywyd bob dydd fel yr oedd mewn cymuned lofaol 80 mlynedd yn ôl. Ar fryniau Cymru, ger Blaenafon, mae moethau’r 21ain ganrif yn cael eu cyfnewid am un o fythynnod glöwyr y 1920au. Mae’r dynion a’r bechgyn dros 14 oed yn wynebu’r realiti llym o weithio yn y pwll glo, tra bod y merched yn rhedeg y cartref o dan amodau bywyd 1927.