Mae’r gantores a’r cyflwynydd Charlotte Church yn ein tywys ar daith bersonol iawn i fyd iechyd meddwl, gan gyfarfod gwyddonwyr a meddygon blaenllaw ym maes ymchwil . Gyda phrofiad ei mam ei hun o frwydr oes gydag anhwylder iechyd meddwl yn ei hysbrydoli, mae Charlotte yn dyrannu ymennydd dynol, yn astudio’r sgan ymennydd mwyaf manwl yn y byd ac yn dod wyneb yn wyneb â’i DNA ei hun mewn ymgais i ddarganfod atebion.