Yn yr ail gyfres o Ceffylau Cymru, mae David Oliver yn cael cwmni cyflwynydd newydd – Nia Marshalsay-Thomas, wrth deithio i ymweld â cheffylau, y perchnogion, y stablau a’r iardiau ar hyd a lled Cymru a thu hwnt. Mae’r ddau yn cymryd cipolwg ar bob math o gampau ‘ceffylog’ o ‘dressage’ i neidio … a cheffylau o bob lliw a llun boed yn Gobyn Cymreig neu yn ‘warmbloods’ o’r cylch rasio … o Gymru i Awstralia! Mae urddas, nerth a gallu’r ceffyl, ynghyd ag angerdd ac ymrwymiad y perchennog yn gwneud hon yn gyfres gwerth ei gweld.