Cyfres newydd sbon yng nghwmni Caryl Parry Jones a’i thîm o actorion. Mae Caryl wedi llwyddo i greu cymeriadau fydd yn ein hatgoffa o rywun sy’n byw yn ein pentrefi, trefi….neu hyd yn oed yn ein cartrefi! Mae’r cymeriadau yn amrywio o’r annwyl, i’r gwirion, i’r ecsentrig, i’r od, ond yn fwy na dim, yn ddoniol bob tro. Ymunwch â Caryl a’r tîm bob wythnos am hanner awr o adloniant a chwerthin!