Yn yr ail gyfres o Caeau Cymru, mae Brychan Llŷr yn datgloi hanes a chyfrinachau ein cymunedau gwledig, trwy ddadansoddi ac ymchwilio i’r enwau a ddefnyddir ar ein tiroedd. Yn gwmni i Brychan mae’r hanesydd Dr Rhian Parry, ac mae’r ddau yn trafod caeau a thiroedd gwahanol ardaloedd Cymru, gan gynnwys Llanfihangel-y-Pennant yn Nyffryn Dysynni, Llanllwni yn Sir Gaerfyrddin a Llanfechell, Sir Fôn.