Tri seleb, tri chwrs, un bwrdd i dri.
Yn y gyfres hon, mi fydd tri wyneb adnabyddus yn paratoi un cwrs o bryd bwyd yr un, yn gwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin. Fe fydd y tri yn coginio’r cwrs o’u dewis nhw ond hefyd yn gorfod paratoi a choginio cyrsiau’r ddau seleb arall – heb wybod pwy sydd wedi eu dewis! Bydd cliwiau i helpu’r selebs ddyfalu pwy fydd y ddau arall fydd yn rhannu’r Bwrdd i Dri.
Ar ôl coginio yn eu ceginau adref fe fydd y tri yn dod at eu gilydd i fwyta, sgwrsio a mwynhau. A wnaeth y tri ddyfalu pwy arall oedd yn coginio? Oedd yna argyfyngau yn y gegin? Ac a fydd y tri yn mwynhau cwmni ei gilydd?