Rhaglen arbennig sy’n dathlu gyrfa ddisglair Bryn Terfel, y bas-bariton byd enwog, ar achlysur ei benblwydd yn 50 oed. Mewn sgwrs ag Emma Walford, mae Bryn yn mynd a ni ar daith gerddorol ac yn sôn am bwysigrwydd ei berfformiadau ar lwyfan yr Eisteddfod, neuaddau cyngerdd a thai opera mawr y byd. Mae’n talu teyrnged i’r bobol hynny sydd wedi bod yn bwysig yn ei ddatblygiad fel canwr ac yn perfformio rhai o’r caneuon a’r ariâu sydd wedi nodi uchelfannau ei yrfa hyd yma.