Mae Boom Cymru a 12 Yard wedi eu comisiynu i gyd-gynhyrchu fformat adloniant newydd ar gyfer Nos Sadwrn i BBC 1, 5 Star Family reunion (8 x 50’). Bydd 5 Star Family Reunion yn dangos teulu o’r DU mewn stiwdio mewn cysylltiad dros gyswllt lloeren gyda’u teulu dramor yn cystadlu i ennill aduniad unwaith mewn oes mewn lleoliad pum seren. Mi fydd y gyfres yn darlledu mewn slot brig yn hwyrach yn y flwyddyn ac mi fydd Nick Knowles yn cyflwyno. Ronw Protheroe sy’n uwch-gynhyrchu’r gyfres ar ran Boom Cymru, a Michael Mannes ar ran 12 Yard. Fe’i comisiynwyd gan Charlotte Moore, Rheolwr BBC One ac Alan Tyler, Golygydd Gweithredol Comisiynu adloniant i’r BBC.
5-Star Family Reunion
Adloniant![5-Star Family Reunion](https://boomcymru.co.uk/wp-content/uploads/2015/05/5StarFamilyShows.jpg)
![Boom Cymru and 12 yard](https://boomcymru.co.uk/wp-content/uploads/2018/11/Boom-Cymru-and-12-yard.png)