Dan arweiniad Huw Stephens a Huw Evans, roedd Bandit yn cyflwyno’r newyddion diweddaraf a pherfformiadau a digwyddiadau o’r sîn gerddorol Cymreig. Cafwyd 8 cyfres o Bandit rhwng 2004 a 2011 a roddodd lwyfan gwerthfawr i fandiau Cymraeg sefydledig a newydd. Nodweddwyd y cyfresi gan berfformiadau byw, cyfweliadau ac arddull gyflwyno unigryw Huw Evans a Huw Stephens (Radio 1). Cafwyd perfformiadau gan gantorion blaenllaw fel Cerys Matthews, Gruff Rhys ac Euros Childs a gwobrwywyd y gyfres gan Bafta Cymru yn 2012 fel y Rhaglen Cerddoriaeth ac Adloniant orau.
Bandit
Cerddoriaeth