Mae’r comedïwr Alan Carr yn mynd ar siwrnai ar hyd a lled y DU i chwilio am y mannau a fu’n ysbrydoliaeth i’r nofelydd a brenhines ffuglen trosedd, Agatha Christie. Roedd Alan yn arbennig o hoff o nofelau Agatha Christie pan oedd e’n tyfu i fyny yn Swydd Northampton yn y 1980au, ac yn mwynhau dianc i fydoedd yr arch-dditectifs Hercule Poirot a Miss Jane Marple. Mae Alan yn ymweld â Burgh Island yn Ne Dyfnaint, cartref gwyliau Agatha Christie, Greenway House, ac yn mynd y tu ôl i’r llwyfan ar gynhyrchiad chwedlonol ‘The Mousetrap’ yn y West End yn Llundain.