Nia Parry sy’n cael y pleser o fusnesa yn nhai rhai o bobl adnabyddus Cymru yn y gyfres ‘Adre’. Mae pob ‘Adre’ yn wahanol a’r cartref yn aml iawn yn adlewyrchu’r cymeriad sy’n byw yno. Cawn gyfle i gael cipolwg ar y tŷ wrth sgwrsio am fywyd a phopeth dan haul a bydd Nia yn darganfod pa dri thrysor fyddai’r cyfrannydd yn eu hachub o’r tŷ.
O’r gwleidydd Carwyn Jones i’r cyflwynydd Angharad Mair a’r cerddor Robat Arwyn,byddwn yn ymweld â chartrefi amrywiaeth o Gymry diddorol ar hyd a lled y wlad.