Mae pumed cyfres 35 Diwrnod wedi ei lleoli yng nghymuned glos tref glan môr fach, lle mae grŵp o hen ffrindiau ysgol yn cwrdd wedi cyfnod hir ar wahân. Ydi llinyn eu hanes yn ddigon cryf i’w clymu at ei gilydd? Mae eu perthynas â’i gilydd yn raddol ddod i’r amlwg, ond a fydd hynny er gwell neu er gwaeth …?