Nid yw popeth fel yr ymddengys yn ystad dai gefnog parchus ‘Crud yr Awel’. Pan ddatgelir corff marw yn ystod y teitlau agoriadol, cawn ein taflu nol yn syth i 35 diwrnod ynghynt pan ddaw’r wraig ieuanc bryd tywyll honno i fyw i’r stad. O’r diwrnod hwnnw hyd at ei marwolaeth, 35 diwrnod yn ddiweddarach, datgelir cyfrinachau ei gorffennol a daw ei chymdogion o dan amheuaeth o’i llofruddio. Drama ddirgelwch wedi ei gwrthdroi ydy 35 Diwrnod, sy’n rhoi’r gwyliwr yng ngofal yr archwiliad i’r digwyddiadau a arweiniodd at lofruddiaeth. Wrth i bob diwrnod fynd heibio, ymddengys craciau tu ôl i ddrysau caeedig trigolion yr ystad, sy’n ymddangos yn ddi-fai cyn cael eu hennyn gan wraig ieuanc llawn dirgelwch a ddaeth i fyw i’w mysg. Datgelir manylion ei llofruddiaeth a’r llofrudd yn ystod munudau cloi’r bennod olaf.