Copa — Patagonia Eric Jones ac Ioan Doyle wedi cyrraedd rhestr fer Gwyl Ffilmiau Mynydd Rhyngwladol Vancouver.

Darlledwyd y rhaglen Copa — Patagonia Eric Jones ac Ioan Doyle , ar S4C fel rhan o ddathliadau 150 o flynyddoedd ers sefydlu’r Wladfa ym Mhatagonia. Mae’r ffilm yn dathlu perthynas dau ddyn, dwy wlad ac un siwrnai – ac yn gyfle’r dringwr byd enwog Eric Jones ddatgelu atgofion a hanesion ei fywyd anturus.

Mae’r ŵyl, sydd yn cael ei chynnal ers 19 o flynyddoedd, yn canolbwyntio ar y ffilmiau antur a mynydda ac yn rhoi blas ar brofiadau a diwylliannau gwahanol y byd. Bydd mwy o wybodaeth am yr ŵyl a’r ffilmiau yn cael eu cyhoeddi mis yma.