Bydd cyfres newydd Boom Cymru, Ceffylau Cymru, yn dechrau ddydd Llun yr 22ain o Chwefror am 8.25yh ar S4C.

Mae’r ceffyl wedi bod yn rhan allweddol o fywyd Cymru dros y blynyddoedd – boed yn fridwyr, yn raswyr neu’n ofaint. Bydd y cyflwynwyr David Oliver a Brychan Llŷr yn bwrw golwg ar y berthynas arbennig rhwng dyn a cheffyl.

Bydd y bennod gyntaf yn dilyn Bridfa Menai, bridfa deuluol ac adnabyddus merlod a chobiau Cymreig yng ngorllewin Cymru. Dros chwe mis, byddwn yn edrych ar eu hamryw lwyddiannau yn y Sioe Frenhinol ac yn dilyn bywyd y fferm wrth iddyn nhw baratoi’r ceffylau ar gyfer sioeau mawr, eu torri i mewn, cystadlu yn sioe Horse of the Year a gwerthu eu stoc.