Mae Cegin Bryn yn dychwelyd i’r sgrin, gyda’r cogydd Bryn Williams yn cael ei ysbrydoli gan gyfoeth naturiol ein tir a môr. Gan ddefnyddio ryseitiau o’i lyfr iaith Gymraeg newydd ‘Tir a Môr’, gwelwn Bryn yn coginio sawl pryd blasus yn y gegin ac ar draws cefn gwlad ac arfordir trawiadol Cymru. Mae Bryn yn teithio o gwmpas y wlad yn ymweld â sawl sy’n defnyddio’r tir a môr i gynhyrchu neu gasglu cynnyrch danteithiol, mae e’n dysgu sut i ddefnyddio ffwrn danddaearol gyda theulu Tongaidd-Gymreig yng Ngorllewin Cymru, yn coginio draenog y môr ffres dros ben yn Aberdyfi, ac yn dychwelyd i’w filltir sgwâr i goginio gwledd yn defnyddio cig oen lleol ar gyfer Clwb Rygbi Dinbych.