Dathliad o’r Gân Gymreig ar Ddydd Gŵyl Ddewi yw thema’r gyngerdd hon o Neuadd Dewi Sant, Caerdydd gyda Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC a Chôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru dan arweiniad Gareth Jones a’r artisitiaid Bryn Terfel, y soprano Menna Cazel a’r delynores frenhinol, Hannah Stone. Mae’r rhaglen yn adlewyrchu cynnyrch cyfansoddwyr y Gân yng Nghymru o Meirion Williams i E.T. Davies ac R.S. Hughes i Robat Arwyn, i gyfeiliant cerddorfaol ac yn cynnwys comisiwn newydd ‘Medli o Ganeuon’ gan y diweddar Bryan Davies, drefnwyd yn arbennig ar gyfer y gyngerdd hon gan Chris Hazell. Mae’r Corws unedig o 160 o leisiau yn canu ffefrynnau corawl fel Adiemus Karl Jenkins a gwelwn gyfraniadau cerddorfaol o waith Hoddinott ynghyd a symudiad o Goncerto Mathias i’r Delyn gan Hannah Stone. Mae’r gynulleidfa i ymuno â’r artistiaid, y gerddorfa a’r corws ar gyfer diweddglo’r gyngerdd mewn perfformiad ar y cyd o ‘A Welsh Celebration’ gan Jeff Howard sy’n cynnwys Sosban Fach, Calon Lân, We’ll Keep a Welcome, Myfanwy a Chwm Rhondda.