Prosiect hanes byw nodedig ar gyfer BBC One Wales. Mae dau deulu o’r 21ain Ganrif yn cael eu cludo yn ôl i fywyd cyntefig ffermwyr bryniau Eryri yn y flwyddyn 1890. Yn byw mewn bythynnod fferm gyfagos, wedi’u gwahanu gan rwydwaith o gaeau, mae nhw’n wynebu brwydr i oroesi tra’n gweithio ar y tir a’r chwareli llechi yn erbyn cefndir o dir mynyddig anial a Môr Iwerddon. Wrth symud i mewn i’r bythynnod bach – eu cartrefi am y mis nesaf – mae nhw’n sylweddoli yn o fuan nad ‘esgus byw’ fydd hyn.