Mae llwybr arfordir Sir Benfro yn teithio trwy leoliadau mwyaf godidog y byd. Pa fath o fywyd sydd i’w gael yn y baradwys Gymreig yma? Trwy gydol haf poeth 2013, bu’r gyfres bedair rhan yma’n dilyn deuddeg stori ac yn cyflwyno cymeriadau arbennig. Gwelir teulu James o Dyddewi yn paratoi ar gyfer priodas eu merch ar y fferm; a’r guru ailgylchu Buzz Knapp-Fisher yn paratoi ei ‘Gaffi Tylwyth Teg’ yn barod ar gyfer cerddwyr y llwybr. Llwydda Julia Horton-Powdrill, chwilotwr y llwybr, i ddenu ymwelwyr i’w Gwyl Fwyd Hollol Wyllt, tra bod y chwedlonol ‘Auntie’ Vi Weston yn dathlu ei phenblwydd yn 92 yn ei chaffi yn Bosherston. Fe welwn Buzz Knapp-Fisher yn creu ei eco ‘Dy bach gyda golygfa’, ac fe gynydda’r gystadleuaeth frwd rhwng raswyr colomennod Aberdaugleddau wrth iddyn nhw anfon eu hadar ifanc i’w ras gyntaf o’r flwyddyn.