Y gyfres Gymraeg wreiddiol. Yn dilyn arbrawf trychinebus gan gwmni cyfathrebu byd-eang Itopia, mae pobl wedi cael eu heintio gan feirws sy’n eu troi’n Zombies, neu ‘Zeds’. Mae pum disgybl dewr yn cuddio yn eu hysgol, ond mae’r Zeds yn dod yn nes. A fydd y criw yn dianc neu’n cael eu troi yn Zeds?