Y Saith Magnifico a Matthew Rhys

Y Saith Magnifico a Matthew Rhys

Saith Seleb o Gymru yn dysgu i fod yn gowbois ar ransh go iawn yn Arizona. Mae saith seleb yn ymuno gyda’r actor Matthew Rhys – y cyflwynydd Alex Jones, y gantores Shân Cothi, yr actorion Steffan Rhodri ac Iwan John, yr awdur Bethan Gwanas, y cyn joci Hywel Davies a’r farchoges harnais Megan Taff – i wynebu her unwaith ac am byth i fyw fel cowboi cyfoes. Mae’r criw yn aros gyda’r teulu Moore ar ransh Price Canyon, yn Tucson, Arizona ac yn ceisio meistroli marchogaeth yn arddull y Gorllewin Gwyllt, defnyddio lasŵ, nodi lloi a gyrru’r gwartheg. Enillodd wobr Bafta Cymru am y rhaglen Adloniant orau a gwobr yr Wyl Gyfryngau Celtaidd am y rhaglen Adloniant Ffeithiol orau.

Boom Cymru
Boom Cymru working with s4c

Yn gweithio gyda

Boom Cymru working with channel 4
UKTV