Dal Ati

Dal Ati

Gwasanaeth newydd sy’n cynnwys rhaglenni amrywiol ar fore Sul. Bydd y gwasanaeth yn targedu dysgwyr canolradd a dysgwyr uwch, yn ogystal â’r Cymry Cymraeg hynny nad ydynt yn hyderus yn eu sgiliau iaith. Bydd yr arlwy yn cynnwys cyfresi megis Milltir² fydd yn pecynnu eitemau archif fesul ardal, gyda chyflwyniad gan Nia Parry i’r ardal honno. Daw Galwch Acw yn ôl i’r sgrin, cyfres goginio gyda Gareth Roberts ac Ioan Talfryn, a bydd Nia yn cael cyfle i sbecian ar gartrefi difyr, cartrefi selebs a chartrefi dysgwyr. Hyn a llawer mwy. Mae gwefan ag ap pwrpasol gan Dal Ati i gydfynd â’r gyfres.

Boom Cymru
Boom Cymru working with s4c

Yn gweithio gyda

Boom Cymru working with channel 4
UKTV