Cyfnod o 13 wythnos o 1af Fehefin – 28ain o Awst 2026
30-37.5 awr yr wythnos / 4-5 diwrnod
Dyddiad Cau: Dydd Llun 1af o Fehefin 2026

Mae Boom yn chwilio am Reolwr Cynhyrchu sy’n cyfathrebu yn y Gymraeg ac sydd ar gael ar unwaith i weithio ar raglen ddogfen 1 x 90 sy’n cynnwys ffilmio tramor, a chyfres gerddoriaeth ddigidol ar gyfer S4C. Byddai profiad mewn logisteg ffilmio tramor a cherddoriaeth yn fanteisiol.

Mae’r swyddfa gynhyrchu wedi’i lleoli ym Mae Caerdydd gyda’r opsiwn i weithio o adref am ran o’r wythnos.

Ymgeisiwch drwy yrru CV a llythyr atodol at hr@boomcymru.co.uk  gan nodi’r cyfeirnod Rheolwr Cynhyrchu-Boom Cymru

Mae Boom yn gyflogwr cyfle cyfartal ac mae’n croesawu pobl â safbwyntiau amrywiol ac o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym wedi ymrwymo i adlewyrchu a chynrychioli amrywiaeth y DU yn ein holl weithgareddau.

Mae eich Data Personol yn bwysig iawn i Boom a bydd y wybodaeth a roddwch yn cael ei chasglu a’i phrosesu yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 a Hysbysiad Preifatrwydd Boom  (https://boomcymru.co.uk/en/polisi-preifatrwydd/).

Gwnewch gais am y swydd hon

Allowed Type(s): .pdf, .doc, .docx