Mae Boom yn chwilio am Is-Gynhyrchydd neu Gynhyrchydd gyda phrofiad helaeth o weithio ar raglenni gyda’r heddlu ar gyfer prosiect teledu sydd ar hyn o bryd mewn datblygiad pellach.
Bydd angen bod gennych amryw o gysylltiadau gyda lluoedd heddlu gwahanol ac yn medru dechrau trafodaethau mynediad yn syth bin
Os oes gennych ddiddordeb, anfonwch gopi o’ch CV at HR@boomcymru.co.uk – gan gyfeirio – Datblygu yn y pennawd, gan ymhelaethu yn eich e-bost eich profiad perthnasol,
Dyddiad cau – 5pm, Dydd Gwener, 1af Awst 2025.
***Dim ond ymgeiswyr sydd â phrofiad o gael mynediad a gweithio’n agos gyda’r heddlu ddylai ymgeisio.****
Mae Boom yn gyflogwr cyfle cyfartal ac mae’n croesawu pobl â safbwyntiau amrywiol ac o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym wedi ymrwymo i adlewyrchu a chynrychioli amrywiaeth y DU yn ein holl weithgareddau.
Mae eich Data Personol yn bwysig iawn i Boom Cymru a bydd y wybodaeth a roddwch yn cael ei chasglu a’i phrosesu yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 a Hysbysiad Preifatrwydd Boom Cymru (https://boomcymru.co.uk/en/polisi-preifatrwydd/).