Mae Boom Cymru wedi cael ei enwebu mewn 4 categori yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd eleni.

Mae ‘#Fi: George’ gan Boom Plant ar restr fer y categori Rhaglen Blant a Nadolig Bryn Terfel ar gyfer Adloniant. Yn y dosbarth Rhaglen Ddogfen mae Copa — Patagonia Eric Jones ac Ioan Doyle tra bod Y Streic a Fi wedi cael ei henwebu yng nghategori’r Rhaglen Ddrama.

Ers bron i 40 mlynedd, mae’r Ŵyl Cyfryngau Celtaidd (CMF) wedi bod yn dathlu ieithoedd a diwylliannau’r gwledydd Celtaidd a welir ar y sgrin.

Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal ar yr 20-22 Ebrill.