Mae Jess Davies yn son am beth mae hi wedi ei ddysgu yn dilyn Jess Y Model a Tudalen 3…
Beth fyddech chi am i bobl fynd gyda nhw wedi gwylio Jess Y Model a Tudalen 3?
Hoffwn i pe bai pobl yn mynd a‘r cysyniad o beidio edrych yn arwynebol ar bob sefyllfa ond i edrych ar bob ochr cyn penderfynu dim. Hoffwn hefyd pe bai pobl yn fwy agored wrth adnabod beth yw ffeminist.
Beth oedd y peth mwyaf diddorol wnaethoch chi ddysgu o’r profiad? Wnaethoch chi newid eich barn ar unrhyw beth?
Er ei fod yn swnio’n ystrydebol, mi wnes i ddysgu mwy amdanaf fi fy hun a pha mor angerddol yr ydw i’n teimlo am yr holl drafodaeth am anghyfartaledd rhyw. Dysgais hefyd o’r ymateb rydw i wedi ei dderbyn fod yna lawer mwy o bobl yn agored i’r syniad o ferched yn cymryd rheolaeth o’u rhywioldeb ac nid yn cael eu rheoli gan eraill, er enghraifft, yn ei weld fel dewis ac nid yn cael eu pwyso i’w wneud – mae’n braf gwybod hynny.
Roedd Jess Y Model a Tudalen 3 yn chwilio i’r syniad o rymuso’r ferch. Beth mae hynny’n ei olygu i chi a phryd fyddwch chi’n teimlo’n fwyaf grymus?
Rwy’n teimlo’n fwyaf grymus pan fyddaf yn rheoli pob penderfyniad a dewis – ddoe, heddiw ac yfory. I mi mae’r term ‘female empowerment’ yn golygu merch yn rheoli eu hunain yn gorfforol, yn feddyliol a’u penderfyniadau ac yn defnyddio’r cyfan i sicrhau canlyniad positif – boed hynny i ennill arian, er budd personol, neu yn gymdeithasol neu ddiwylliannol.