Mae Grŵp Boom wedi ennill 6 gwobr yng nghwobrau Bafta Cymru 2019. Mae ‘Priodas Pum Mil’ wedi ennill Rhaglen Adloniant gorau, ac Anorac yn cipio pedair gwobr am Ffotograffiaeth Ffeithiol (Joni Cray & Gruffydd Davies), Golygu (Madoc Roberts), Cyflwynydd (Huw Stephens) a Sain (Jules Davies). Llongyfarchiadau mawr hefyd i Bait Studio am ennill y categori Effeithiau Arbennig a Gweledol (Apostle).

Rhestr lawn o’r enillwyr: https://tinyurl.com/yxa523wh