Cystadleuaeth sy’n herio Cymru ifanc i gyrraedd y marc yng nghanol realiti byd gwaith.

Ym mhob rhaglen mae 3 person ifanc, 11- 13 mlwydd oed, yn treulio deuddydd mewn gweithle prysur yn cael amrywiaeth o brofiadau.  Mae’r 3 yn cael eu hyfforddi ac yn gorfod gwneud sawl gweithgaredd, gyda mentor busnes y gyfres yn monitro eu perfformiad ac yn eu mesur yn erbyn meini prawf proffesiynol.