Mae Dal Ati, y gwasanaeth newydd ar gyfer dysgwyr, yn cael ei lansio ar Ddydd Sul 28ain o Fedi am 10.30am. Mae’r gyfres yn cynnwys Milltir², cyfres sy’n canolbwyntio ar ardal wahanol o Gymru a gyflwynir gan Nia Parry. Mae’r gyfres coginio Galwch Acw yn dychwelyd gyda Gareth Roberts a’r tiwtor Gymraeg profiadol Ioan Talfryn, ac mae dwy raglen gyntaf y gwasanaeth yn dilyn cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn gafodd ei chynnal yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Sir Gar.

Mae’r gyfres o 32 x 60’ yn cael ei darlledu o’r 28ain o Fedi.