Darpariaeth gynhwysfawr o holl ddigwyddiadau a chystadlu’r Sioe Frenhinol Cymru. Bydd Boom Cymru yn darlledu’n fyw o’r Sioe pob dydd o 10.00 am tan tua 5.00 pm, gyda’n cyflwynwyr yn ein tywys o gwmpas y maes. Bydd y rhaglenni ar gael gyda Sylwebaeth Saesneg. Hefyd bydd modd gwylio holl gystadlu o’r Prif Gylch o 8.00 am tan tua 1.00 pm yn ddi-dor ar Wefan y Sioe. Mae’r gwasanaeth yma hefyd gyda’r opsiwn o Sylwebaeth Saesneg. Pob nos bydd rhaglenni uchafbwyntiau gydag Ifan Jones Evans yn crynhoi digwyddiadau’r dydd.
Y Sioe Frenhinol
Digwyddiadau