Cerys Matthews sy’n rhoi cefndir i rai o’n caneuon Cymreig mwyaf eiconig. Tu ôl i’r geiriau a’r melodïau mae straeon hudol sydd yn ein tywys i leoliadau annisgwyl ar draws y byd. Cyfres o raglenni sy’n ‘hel achau’ cerddorol gyda pherfformiad byw o bob cân gan Cerys mewn lleoliadau perthnasol o gwmpas Cymru. Mae’r gyfres yn cynnwys cyfraniadau gan gerddorion, haneswyr ac arbenigwyr sy’n rhannu eu profiadau a’u barn am rai o drysorau cerddorol ein cenedl.
Y Goeden Faled
Cerddoriaeth