Great Welsh Writers

Great Welsh Writers

Mae Cymru wedi cynhyrchu rhai o awduron a beirdd mwyaf poblogaidd a nodedig y degawdau diwethaf; rhai sydd wedi cyrraedd brig y siartiau gwerthu ac sy’n llwyddo i blesio’r beirniaid.  Er hynny, nid yw’r awduron na’r beirdd yma wedi derbyn y clod y maent yn haeddu.  Mae cyfres Great Welsh Writers yn cymryd golwg newydd a chynhwysfawr ar ein hawduron gorau: y diweddar Leslie Thomas ac Elaine Morgan, Ken Follett, Philip Pullman, Gillian Clarke, Vernon Watkins a Dannie Abse.  Mae’r rhaglenni yn cynnwys cyfweliadau unigryw, sy’n rhoi cyfle iddynt ddatgelu eu hysbrydoliaeth, cyfrinachau eu gwaith, digwyddiadau sydd wedi dylanwadu ar eu bywydau ac amlinellu sut ‘mae Cymru wedi ysbrydoli eu creadigrwydd. Gyda chyfraniadau gan Sir David Attenborough, Sian Phillips, Frederick Forsyth a Terry Jones.

Boom Cymru
Boom Cymru Working with BBC Two Wales