Ffilm dymhorol am ddwy chwaer a brawd sy’n byw heb ofal rhieni – ond tydi bywyd ddim yn fêl i gyd! Bu farw’r fam pan roedd Enfys yn fabi, a byth ers hynny mae’r tad sy’n llawn galar wedi penderfynu gweithio i ffwrdd. Heblaw am ychydig o dwyllo achlysurol i guddio’r gyfrinach mae’r tri’n byw’n ddigon dedwydd, ond mae eu byd ar fin troi wyneb i waered. Mae dyn busnes yn symud i’r ardal gyda’r bwriad o godi gwesty pum seren ar safle eu cartref. Pan ddaw e i ddarganfod nad oes oedolion yn byw yn y ty, beth fydd tynged y tri? Ffilm gerddorol llawn hiwmor a thensiwn sy’n cynnwys caneuon am blant sy’n ceisio ymdopi yn y byd mawr ar eu pennau ei hunain.