Cyfres i CBBC yn deillio o’r gyfres ‘Snowdonia’, lle mae dau deulu ar antur fythgofiadwy. Mae nhw’n rhoi’r gorau i bopeth ac yn mynd yn ôl mewn amser i fyw fel ffermwyr mynydd yr Oes Fictoria. Am fis cyfan, does dim dianc o’r fferm fynydd yn Eryri, Gogledd Cymru. Does dim trydan, dim dŵr tap a dim toiled hyd yn oed. Mae’n rhaid iddynt fyw oddi ar y tir, bugeilio defaid, rhedeg ar ôl ieir, a charthu’r beudy. Ychydig iawn o fwyd sydd i gael, a llai fyth o arian, sy’n golygu bod rhaid i hyd yn oed y plant weithio. Dau deulu, un mynydd, un mis. Sut y byddant yn goroesi?
Stuck on Sheep Mountain
Ffeithiol