Ffilm am gyfeillgarwch, yn deillio o anallu teulu i gyfathrebu o ganlyniad i drasiedi. O ganlyniad i farwolaeth, mae teulu yn symud i fflat – dechrau newydd a llai o atgofion. Yn y fflat uwchben mae Llion yn byw, ac mae ganddo ddawn anhygoel o chwarae’r piano. Mae’r ddrama yn datblygu wrth i Ela, merch y teulu, a Llion ffurfio cyfeillgarwch, yn bennaf drwy gyd-arlunio a chyd-chwarae’r piano, ond a oes gan Llion amcanion tywyllach wrth ffurfio’r berthynas gyda’r ferch 10 mlwydd oed? Uchafbwynt y ddrama yw dicter y tad wrth iddo ddod yn ymwybodol o’r cyfeillgarwch. Canlyniad hyn yw’r hunan sylweddoliad o gyflwr y teulu, methu siarad a mynegi teimladau.
Pianissimo
Drama