Tudur Owen, Sian Harries a’r criw sy’n cymryd golwg ddychanol ar ddigwyddiadau 2021. Er gwaethaf Covid bu’n flwyddyn ddifyr ac amrywiol yng Nghymru a thu hwnt – Mark Drakeford yn dangos ei ddannedd, silffoedd yr archfarchnadoedd yn wag, trafnidiaeth camlas Suez yn dod i stop, yr Eisteddfod a’r Sioe Amaethyddol yn mynd yn rhithiol, poblogrwydd Squid Game, a’r ffrae am ail gartrefi a chadw enwau Cymraeg yn codi gêr.
Rhaglen sy’n dweud ffarwel wrth 2021 gyda gwên.
O’r Diwedd 2021
Adloniant![O’r Diwedd 2021](https://boomcymru.co.uk/wp-content/uploads/2022/03/Or-Diwedd-2021-1.jpg)