Mae’r actor a’r cyflwynydd Steffan Rhodri yn bwrw golwg ar sut mae cynnyrch o Gymru wedi cyrraedd cwsmeriaid dros y byd. Mae’r gyfres hon yn canolbwyntio ar gynnyrch o Gymru sy’n cael ei allforio dros y byd. Steffan Rhodri sy’n ymweld â nifer o gwmnïau amrywiol yng Nghymru i glywed hanes eu cynnyrch cyn dilyn teithiau’r cynnyrch yma dramor i weld sut y’i defnyddir nhw gan ddiwylliannau gwahanol. Mae’r gyfres yn cynnwys cynnyrch a allforiwyd gan Halen Môn, Corgi Knitwear a Trailers Ifor Williams ac mae pob rhaglen yn canolbwyntio ar un wlad neu gyfandir – UDA, Siapan, Dubai, Hong Kong, Ewrop a’r DU.