Mae llawer yn ystyried Alun Lewis fel prif awdur Prydeinig yr Ail Ryfel Byd. Fe’i ganed yng nghymoedd de Cymru a chafodd ei ladd dramor pan oedd ond yn wyth ar hugain oed. Ond mae’r cerddi, y llythyrau a’r storïau a adawodd ar ei ôl yn ei osod fel un o fawrion ein llên. I gofnodi canrif ers ei eni, mae’r rhaglen arbennig hon yn y gyfres Great Welsh Writers yn edrych ar fywyd a gwaith Alun Lewis, o galedi ei blentyndod yng Nghwmaman i eithafoedd India yn ystod y rhyfel. Ar ein taith fe glywn ei gerddi sy’n adrodd ei deimladau am serch ac angau ac a’i gwnaeth yn awdur o fri. Byddwn hefyd yn datgelu’r gyfrinach a guddiwyd yn ei gerddi olaf: perthynas gariadus angerddol a newidiodd ei fywyd ond a ddaeth ag ef yn nes at farwolaeth. Mi fydd y rhaglen yn cynnwys atgofion gweddw Alun Lewis, Gweno, sy’n 102 oed, a mewnwelediad gan y beirdd, Owen Sheers, Andrew Motion a Gillian Clarke.