Cyfres ddrama llawn tensiwn a hiwmor tywyll gydag islais gwleidyddol a chymdeithasol. Mae taith y ddwy ffrind yn parhau yn yr ail gyfres gydag Enid, Lucy a babi Archie bellach yn byw o dan yr un to. Mae Lucy’n cael swydd mewn siop trin gwallt ac mae Brian, dyn gweddw lleol yn awyddus i glosio at Enid. Ond nid chwilio am gariad sydd yn bwysig i Enid yn y gyfres yma, ond cyfiawnder. Mae’n benderfynol o gael gafael ar Dewi ar ôl iddo ddiflannu gyda gwerth ugain mil o bunnoedd o gyffuriau Lucy. Heb yr arian does dim modd i Lucy ddianc rhag ei phartner treisgar Denfer, na Sid pennaeth y cartel cyffuriau lleol. Er mwyn unioni’r cam, bydd rhaid i Enid yr athrawes biano barchus a chanol oed dorri’r rheolau, herio’r drefn a chamu ymhellach i fyd peryglus a thywyll gwerthu cyffuriau. Mae Enid yn wynebu’r sefyllfa gyda dewrder, ond mae’r dewrder yna yn arwain yn anffodus at gorff yn gorwedd yn llonydd ar lawr warws anghysbell, ac at lanast ac anhrefn llwyr.