Cyfres newydd sbon sy’n mynd a ni ar daith i lefydd gwahanol yng Nghymru yng nghwmni Geraint Hardy. Yn ystod y rhaglenni byddwn yn ymweld â Merthyr Tudful, Betws y Coed, Aberteifi, Wrecsam, Biwmares a Machynlleth. Byddwn yn edrych ar lefydd i aros a llefydd i fwyta, ac yn cael tro ar nifer o weithgareddau, o’r cyffrous i’r hamddenol….ond bydd rhywbeth at ddant pawb. Byddwn hefyd yn cwrdd â thrigolion lleol i glywed mwy am hanes yr ardal ac yn sgwrsio gyda dysgwyr Cymraeg sy’n byw yno.