Mae’r rhaglen ddogfen yma yn dilyn un o enwogion mwyaf Cymru, Charlotte Church. Mae hi’n siarad yn agored am ei bywyd, ei gyrfa a’i dyfodol wrth iddi ddechrau ar bennod newydd yn ei gyrfa. Mae Charlotte wedi bod yn byw bywyd cyhoeddus ers i’r “Voice of an Angel” cael ei darganfod pan oedd yn ddeuddeg mlwydd oed. Yn ei harddegau, lansiodd yrfa ym myd pop, a bu’n destun sylw’r paparazzi a’r tabloids. Mae hi bellach yn 28, ac mae Charlotte yn ôl gyda phrosiect sy’n dilyn trywydd cerddorol newydd. Mae’r camerau yn dilyn Charlotte yn trefnu dau gyngerdd yn Llundain ac yng Nghaerdydd, sydd yn cynnwys ei cherddoriaeth newydd a’i band. Tybed y gall hi ennyn edmygedd ei beirniaid a’r diwydiant cerddoriaeth?